Neidio i'r prif gynnwy

Osgoi slipio yn eich sliperi dros y Gaeaf

Dwylo dyn yn pacio anrhegion Nadolig ar fwrdd gydag addurniadau Nadolig

Mae tywydd oer y Gaeaf wedi cyrraedd ac wrth i ni chwilio am y swits i droi ein gwres ymlaen, rydyn ni hefyd yn chwilio am ein sliperi cyfforddus i gadw ein traed yn gynnes. Gall gwisgo sliperi helpu lleihau achosion o annwyd a'r ffliw, atal poen yn y traed o ganlyniad i’r llawr ac atal heintiau ffwngaidd.  

Fodd bynnag, mae'n werth treulio eiliad yn meddwl am sut mae eich sliperi yn ffitio a pha mor hen ydyn nhw er mwyn osgoi rhoi eich traed a'ch iechyd mewn perygl.

Gall sliperi fod yn berygl syrthio ac achosi i ni anafu os yw'r maint a'r gafael yn anghywir neu os yw'r gwadn wedi treulio neu’n llac. Ystyriwch gael sliper o ansawdd da, sy'n ffitio'n gywir gyda gwadn da sy'n cefnogi eich traed a'n fferau dros dymor y gaeaf. 

Efallai na fydd pâr newydd o sliperi ar restr Nadolig pawb ond maen nhw’n aml yn hoff anrheg i aelodau'r teulu ac yn arbennig ar gyfer teulu sydd ychydig yn hŷn. Os ydych yn ansicr ynghylch maint a math y sliper i'w brynu, efallai y gallwch gynnig mynd â nhw gyda chi i siopa er mwyn rhoi cynnig ar rai mathau gwahanol. Os nad yw hyn yn ymarferol ond rydych chi’n awyddus i roi pâr fel anrheg, mae'n werth gofyn i'r siop am dderbynneb anrheg. Byddai hyn wedyn yn caniatáu i'r person gyfnewid neu gael ad-daliad os nad ydyn nhw’n teimlo bod y sliperi yn addas iddyn nhw.  

Rhyddhawyd: 27/11/2023

Rhannu:
Cyswllt: