Neidio i'r prif gynnwy

Rhowch haen ychwanegol o amddiffyniad i chi'ch hun y gaeaf hwn trwy gael eich brechlynnau ffliw a COVID

Dyn mewn côt werdd gydag elfennau neon ar y blaen

Mae arbenigwyr iechyd cyhoeddus o Fwrdd Iechyd Addysgu Powys yn annog y rhai sy'n gymwys i dderbyn eu brechlynnau ffliw a COVID i roi’r haen ychwanegol hynny o amddiffyniad i’w hunain rhag salwch difrifol y gaeaf hwn. 

Gall y ffliw fod yn ddifrifol, yn enwedig i'r rhai sy'n hŷn neu sydd â chyflwr iechyd ac sy'n fwy agored i gymhlethdodau o ganlyniad i'r ffliw. Cael brechlyn ffliw bob blwyddyn yw un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o amddiffyn rhag y ffliw. 

Gyda Covid-19 hefyd yn mynd ar led, a phwysau ychwanegol y gaeaf ar y GIG, mae'n bwysicach nag erioed bod y rhai sy'n gymwys i gael brechlyn ffliw neu Covid-19 am ddim yn cael eu brechu er mwyn helpu i'w hatal rhag mynd yn ddifrifol sâl a diogelu'r GIG y gaeaf hwn. 

Dywedodd Mererid Bowley, Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Addysgu Powys: "Manteisio ar y cynnig i gael brechlyn COVID-19 a brechlyn y ffliw yw un o'r camau mwyaf y gallwn ei gymryd i ddiogelu ein hiechyd y gaeaf hwn. Mae brechu yn achub bywydau ac yn helpu atal salwch difrifol. Cadwch lygad allan am eich gwahoddiad, a gwnewch eich gorau i fynychu’r apwyntiad rydym yn ei gynnig." 

I gael rhagor o wybodaeth am sut i gael y brechlynnau ym Mhowys, ewch i https://biap.gig.cymru/homepage-pop-up-cy/brechu-covid-19/ a https://biap.gig.cymru/aros-yn-iach/brechlyn-ffliw/  

 

 

Rhyddhawyd: 21/11/2023

Rhannu:
Cyswllt: