Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Chyngor Sir Powys yn lansio ymgyrch newydd i godi ymwybyddiaeth o'r niweidion posibl o fêpio i bobl ifanc

Heddiw, mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Chyngor Sir Powys wedi lansio ymgyrch newydd ar y cyd gyda'r nod o godi ymwybyddiaeth o'r niwed posibl o fêpio i bobl ifanc yn y sir.

Mae ffigyrau diweddar gan y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion yn awgrymu, er bod nifer y bobl ifanc ym Mhowys sy'n ysmygu tybaco yn parhau i ostwng, mae Fêpio ar gynnydd. Ledled Cymru, mae 5% o bobl ifanc yn defnyddio fêps yn wythnosol, gydag 1 ym mhob 5 person ifanc ym Mhowys yn cyfaddef eu bod wedi rhoi cynnig ar fêpio.

Cafodd yr ymgyrch ei chyd-ddylunio gyda myfyrwyr o Ysgol Uwchradd Crughywel, yn ogystal ag aelodau Clwb Ieuenctid Aberhonddu a Llandrindod, ac mae'n chwarae ar y lliwiau llachar a'r blasau ffrwythau a ddefnyddir wrth farchnata dyfeisiau fêpio. Mae'r ymgyrch yn gobeithio newid y gred bod fêpio yn cŵl, yn lanach ac yn ddiogel gan godi ymwybyddiaeth o'r niwed posibl o fêpio, ac annog pobl ifanc i geisio cymorth i roi'r gorau i fêpio.

Dywedodd Mererid Bowley, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys: "Mae'n anghyfreithlon i bobl dan 18 oed brynu sigaréts nicotin neu eu prynu ar eu cyfer. Nid yw fêpio heb ei niweidion. Yn syml, nid oes gennym ddigon o dystiolaeth i wybod yr effeithiau hirdymor y mae fêpio yn ei chael ar ein hiechyd a'n lles. Ni ddylai ymennydd sy’n datblygu fod yn agored i nicotin, mae’n peri risg o ddatblygu caethiwed. Y neges syml yw, os nad ydych chi'n ysmygu, yna ni ddylech chi ddechrau fêpio. Byddwn yn annog rhieni i rannu'r ymgyrch yn eang, ac i drafod y risgiau o fêpio gyda'u plant, i godi ymwybyddiaeth o'i niwed posibl, a chefnogi atal argyfwng iechyd cyhoeddus yn y dyfodol".

Dywedodd Matt Perry, Prif Swyddog Cyngor Sir Powys, "Mae'n hanfodol bod y meddylfryd o amgylch fêpio, nid yn unig ar draws y sir, ond ledled y wlad, yn cael ei newid, ac mae'n wych ein bod yn gallu gweithio mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Addysgu Powys i ddatblygu'r ymgyrch hon a'n helpu i godi ymwybyddiaeth o'r niwed posibl o fêpio.

"Nid yw'r ffaith bod y ddyfais yn lliwgar â blas ffrwytha yn golygu ei bod yn dod heb risgiau. Mae'n dod gyda rhestr o'i sgîl-effeithiau a goblygiadau iechyd ei hun. Mae'r ymgyrch hon yn adlewyrchu ein dull partneriaeth cryf i amddiffyn iechyd ein trigolion."

Bydd yr ymgyrch i'w gweld ar draws Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a chyfrifon cyfryngau cymdeithasol a safleoedd gweithredol Cyngor Sir Powys, ysgolion uwchradd a safleoedd bysys ym Mhowys. Bydd y deunyddiau hefyd yn gallu cael eu lawrlwytho ar-lein.

Am fwy o wybodaeth ar yr ymgyrch neu i geisio cymorth ar roi gorau i fêpio, ewch i: Fêpio - Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (gig.cymru)

 

Rhyddhawyd: 08/04/2024

Rhannu:
Cyswllt: