Neidio i'r prif gynnwy

Y Coronafeirws a phwysigrwydd Cynllunio Gofal Ymlaen Llaw

Mae hwn yn Ddatganiad Ymlaen Llaw  i helpu ateb cwestiynau a'n helpu i wneud penderfyniadau am eich gofal os byddwch yn dal Coronafeirws ac yn mynd yn sâl iawn "mor sâl fel na fyddwch efallai'n goroesi". Os nad ydych yn gallu siarad dros eich hun, gall y datganiad ymlaen llaw hwn fod yn ddefnyddiol i’ch teulu ac anwyliaid, a'r gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n gofalu amdanoch.

Gallwch ddefnyddio’r ddogfen hon ar y cyd â chynllun gofal ymlaen llaw ‘Fy Mywyd, Fy Nymuniadau’ a'r ddogfen canllawiau gwybodaeth, neu gall hyn fod yn ddatganiad ymlaen llaw annibynnol.  Edrychwch ar ddogfen ganllaw gwybodaeth Fy Mywyd, Fy Nymuniadau ar gyfer gwybodaeth gefnogol arall e.e. Gorchymyn Peidio â Cheisio Adfywio Cardio-pwlmonaidd (DNACPR), Atwrneiod Parhaol (LPA).

Os oes gennych safbwyntiau clir am driniaethau neu ymyriadau na fyddech eu heisiau, gallwch ffurfioli'r dymuniadau hyn drwy gwblhau Penderfyniad Ymlaen Llaw i Wrthod Triniaeth (ADRT) sydd wedi’i rhwymo mewn cyfraith. I gael rhagor o wybodaeth, gweler y llyfryn canllaw gwybodaeth.

Rydym yn awgrymu: Advance-Decision-Pack-v2.1.pdf (compassionindying.org.uk)

Oherwydd pa mor ddifrifol yw’r feirws, mae'n bwysig i chi ystyried ble rydych yn dymuno derbyn gofal a beth sy'n bwysig i chi rhag ofn i chi fynd yn ddifrifol wael gyda'r Coronafeirws - ydy bod gartref gyda ffrindiau a theulu yn bwysig i chi neu a ydy gweithiwr proffesiynol yn gofalu amdanoch mewn lleoliad gofal yn bwysicach, hyd yn oed os oedd yn golygu efallai na fydd eich anwyliaid yn gallu ymweld?

Os ydych yn penderfynu aros gartref, yna bydd y tîm gofal yn eich helpu i fod mor gyffyrddus â phosibl. Diolch am feddwl am hyn, siaradwch am hyn gyda’ch anwyliaid fel eu bod yn ymwybodol o’ch dymuniadau.

Rhannu:
Cyswllt: