Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am Eiriolwyr Cynllunio Gofal Ymlaen Llaw Powys

Yn 2019, cyhoeddodd Tîm Gofal lliniarol Arbenigol Powys ddogfennaeth y Cynllun Gofal Ymlaen Llaw “Fy Mywyd, Fy Nymuniadau” BIAP yn dilyn ymgysylltiad enfawr gyda’r cyhoedd.

Mae Eiriolwyr Cynllun Gofal Ymlaen Llaw wedi’u hyfforddi i hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth am y Cynllun Gofal Ymlaen Llaw a dogfen Fy Mywyd, Fy Nymuniadau fel rhan o’n cymuned leol.

Mae dros 300 o Eiriolwyr ACP Powys wedi'u hyfforddi o feysydd Iechyd, Gofal Cymdeithasol, PAVO, Mudiadau Gwirfoddol a phobl leol. Mae Eiriolwyr ACP Powys yn cefnogi sgyrsiau “yr hyn sy’n bwysig i chi” pan fydd cyfleoedd ACP yn codi drwy eu rolau, eu cymuned leol sefydledig a'u rhwydweithiau personol.

Mae dogfen Fy Mywyd, Fy Nymuniadau yn arwain ac yn ysgogi sgyrsiau gonest a phwysig am benderfyniadau gofal yn y dyfodol i annog a chefnogi pobl ym Mhowys i feddwl, siarad a chynllunio eu dymuniadau a'u dewisiadau gofal yn y dyfodol.

Mae gennym Eiriolwyr ACP addysgedig yn ein cymunedau gwledig ym Mhowys, ac rydym am barhau i hyrwyddo partneriaeth, gofal tosturiol a chymorth.

Bydd Eiriolwyr Cynllunio Gofal Ymlaen Llaw yn:

  • Cadw mewn cysylltiad â grwpiau cymunedol ym Mhowys.
  • Parhau i ddysgu a meithrin y mudiad ACP sydd o hyd yn tyfu ym Mhowys.
  • Parhau i guro’r tabŵ dros siarad am fywyd, marwolaeth, marw a chynllunio gofal y dyfodol o fewn ein cymuned ym Mhowys.

Os hoffech helpu i hyrwyddo Cynllunio Gofal Ymlaen Llaw a Fy Mywyd, Fy Nymuniadau, neu os hoffech fod yn Eiriolwr ACP Powys, yna cysylltwch â Powys.PalliativeCareTeam@wales.nhs.uk

 

Rhannu:
Cyswllt: