Neidio i'r prif gynnwy

Dewisiadau Beichiogrwydd / Erthyliad

Os ydych chi’n feichiog ac yn dymuno parhau gyda’r beichiogrwydd, mae’n syniad da ceisio cymorth gofal iechyd cyn gynted â phosibl. I wneud hyn, cysylltwch â’ch tîm Bydwreigiaeth lleol.

Os ydych chi'n feichiog ac nad ydych am barhau â'r beichiogrwydd ac os hoffech ofyn am erthyliad (terfynu beichiogrwydd), gallwch gael mynediad i'r gwasanaeth trwy Wasanaeth Cynghori Beichiogrwydd Prydain (BPAS).  

Os nad ydych yn siŵr a ydych am barhau â'r beichiogrwydd, mae cyngor ar gael gan:

  • eich meddyg teulu neu nyrs yn eich meddygfa
  • Gwefan y GIG
  • Brook, elusen iechyd rhywiol i bobl ifanc
  • clinig iechyd rhywiol

Mae cyngor ar gael hyd yn oed os ydych chi dan 16 oed.

Rhannu:
Cyswllt: