Neidio i'r prif gynnwy

Asthma

Asthma yn gyflwr cyffredin sy’n effeithio ar yr ysgyfaint ac yn gallu achosi rhai anawsterau anadlu. 

Mae’n effeithio ar bobl o bob oedran ac yn aml yn dechrau yn ystod plentyndod, er y gall hefyd ddatblygu am y tro cyntaf fel oedolyn. Does dim ffordd o’i wellau’n llwyr ar hyn o bryd, ond mae yna driniaethau syml a all helpu cadw'r symptomau dan reolaeth, felly nid yw'n cael effaith fawr ar eich bywyd . 

Symptomau asthma 

Dyma brif symptomau asthma: 

  • Sain chwibanau pan fyddwch yn anadlu (gwichian). 

  • Diffyg anadl. 

  • Brest dynn, a allai deimlo fel band yn tynhau o'i chwmpas. 

  • Peswch. 

  • Weithiau gall y symptomau waethygu dros dro. Gelwir hyn yn bwl o asthma. 

Pryd i weld Meddyg Teulu 

Ewch i weld meddyg teulu os ydych chi'n meddwl bod gennych chi neu'ch plentyn asthma. Mae sawl cyflwr yn gallu achosi symptomau tebyg, felly mae’n bwysig i chi gael diagnosis go iawn a thriniaeth gywir. Fel arfer, bydd y Meddyg Teulu yn gallu rhoi diagnosis asthma heb ofyn am symptomau trwy gynnal rhai profion syml. 

Triniaeth Asthma 

Mae asthma fel arfer yn cael ei drin gan ddefnyddio mewnanadlydd, dyfais fach sy’n galluogi i chi anadlu meddyginiaeth i mewn. Dyma’r prif fathau: 

  • Mewnanadlwyr lleddfol - yn cael eu defnyddio pan fo angen i leddfu symptomau asthma yn gyflym am gyfnod byr. 
  • Mewnanadlwyr ataliol - yn cael eu defnyddio bob dydd i atal symptomau asthma.

Mae pobl hefyd angen cymryd tabledi. Mae rheoli asthma'n dda pan fyddwch ar driniaeth atal yn anelu at ddim symptomau pan fyddwch chi'n iach. 

Dylai fod gan oedolion a phlant gynllun gweithredu asthma personol y cytunir arno gyda'u gweithiwr gofal iechyd proffesiynol, fel arfer yn eu hadolygiad blynyddol. 

Achosion a Sbardunau Asthma 

Mae asthma’n cael eu hachosi gan chwyddo (llid) yn y tiwbiau anadlu sy’n cludo aer i mewn ac allan o’r ysgyfaint. Mae hyn yn gwneud y tiwbiau'n sensitif iawn, felly maen nhw’n culhau dros dro. Gall hyn ddigwydd ar hap neu ar ôl dod i gysylltiad â sbardun. 

Ymhlith sbardunau cyffredin asthma mae: 

  • Alergeddau (er enghraifft, llwch, blew anifail neu baill) 

  • Mwg, llygredd ac aer oer 

  • Ymarfer corff 

  • Heintiau megis annwyd neu ffliw.

Gall nodi ac osgoi eich sbardunau asthma helpu chi reoli eich symptomau. 

Pa mor hir mae asthma yn para 

Mae asthma yn gyflwr hirdymor i lawer o bobl, yn enwedig os yw’n datblygu am y tro cyntaf pan fyddwch yn oedolyn. Mewn plant, gall weithiau diflannu neu wella yn ystod eu harddegau, ond gall ddychwelyd yn hwyrach mewn bywyd. Gellir rheoli symptomau fel arfer gyda thriniaeth. Bydd rhan fwyaf o bobl yn byw bywydau normal ac actif, er y gall rhai pobl gydag asthma sy’n fwy difrifol, brofi problemau parhaus. 

Cymhlethdodau asthma 

Er y gellir rheoli asthma fel arfer, rhaid cofio ei fod yn gyflwr difrifol iawn sy’n gallu achosi nifer o broblemau. Dyma pam y mae’n bwysig i ddilyn eich cynllun triniaeth a pheidio anwybyddu’r symptomau os ydyn nhw’n gwaethygu. Gall asthma sy'n cael ei reoli'n wael achosi problemau fel: 

  • Teimlo’n flinedig yn aml. 

  • Tanberfformiad yn, neu absenoldeb, o’r gwaith neu’r ysgol. 

  • Straen, gorbryder neu iselder. 

  • Tarfu ar eich gwaith a'ch bywyd hamddenol oherwydd ymweliadau annisgwyl â meddyg teulu neu ysbyty. 

  • Heintiau ar yr ysgyfaint (Niwmonia). 

  • Oedi wrth dyfu neu’r glasoed ym mhlant.

Mae hefyd risg o bwl o asthma difrifol, sy’n gallu bod yn fygythiad i fywyd. 

Mae yna apiau Anadlol sy'n cynnig cymorth hirdymor i'ch helpu rheoli eich cyflwr anadlol, fel COPD ac Asthma, gan eich helpu i aros yn iach, gyda chyngor, addysg a chefnogaeth o ansawdd rhagorol. 

Asthma Hub – Healthhub

Asthmahub I Rieni – Healthhub

(Ffynhonnell Iechyd A-Z GIG Lloegr)

Rhannu:
Cyswllt: