Neidio i'r prif gynnwy

COPD

COPD Clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint yw'r enw ar gyfer grŵp o gyflyrau'r ysgyfaint sy'n achosi anawsterau anadlu.  

Mae’n cynnwys:  

  • Emffysema – difrod i'r sachau aer yn yr ysgyfaint  

  • Broncitis Cronig - llid hirdymor ar y llwybrau anadlu.

Mae Clefyd Rhwystrol Cronig yr Ysgyfaint (COPD) yn gyflwr cyffredin sy’n effeithio’n bennaf ar oedolion canol oed neu’n hŷn sy’n ysmygu, neu gyda hanes sylweddol o ysmygu. Nid yw llawer o bobl yn sylweddoli bod ganddyn nhw’r cyflwr.  

Symptomau: Mae’r problemau anadlu yn tueddu gwaethygu dros amser ac yn gallu lleihau eich gallu i wneud gweithgareddau arferol, er gall triniaeth helpu rheoli’r cyflwr.

Dyma brif symptomau COPD: 

  • Diffyg anadl yn cynyddu, yn enwedig pan fyddwch yn actif. 

  • Peswch parhaus yn y frest gyda fflem –mae rhai pobl yn diystyru hyn fel "peswch ysmygwr” yn unig.  

  • Heintiau rheolaidd ar y frest a gwichian parhaus. Heb driniaeth, mae'r symptomau fel arfer yn gwaethygu'n raddol.

Efallai y bydd cyfnodau hefyd pan fydd eich diffyg anadl yn gwaethygu'n sydyn.  

Pryd i geisio cyngor meddygol?  

Ewch i weld Meddyg Teulu os oes gennych symptomau parhaus o COPD, yn enwedig os ydych yn 35 oed neu’n hŷn ac yn ysmygu, neu wedi ysmygu yn y gorffennol. Peidiwch ag anwybyddu’r symptomau. Os yw’r symptomau wedi’u hachosi gan COPD, mae'n well dechrau triniaeth cyn gynted â phosibl, cyn i'ch ysgyfaint gael ei ddifrodi'n sylweddol. Bydd y Meddyg Teulu yn gofyn i chi am eich symptomau ac a ydych yn ysmygu, neu wedi ysmygu yn y gorffennol. Gallant drefnu prawf anadlu i helpu gwneud diagnosis o COPD a diystyru cyflyrau eraill yr ysgyfaint, fel asthma.  

Achosion COPD  

Mae COPD yn digwydd pan fydd yr ysgyfaint yn mynd yn llidus, yn cael ei ddifrodi ac yn lleihau. Y prif achos yw ysmygu, er y gall y cyflwr weithiau effeithio ar bobl nad ydyn nhw erioed wedi ysmygu. Mae’r debygoliaeth o ddatblygu COPD yn cynyddu’r mwy rydych chi’n ysmygu a’r hirach. Mae rhai achosion o COPD yn cael eu hachosi gan amlygiad hirdymor i fwg neu lwch niweidiol. Mae eraill yn ganlyniad i broblem enetig sy'n golygu bod yr ysgyfaint yn fwy agored i niwed. 

Triniaeth COPD 

Mae'r niwed i'r ysgyfaint a achosir gan COPD yn barhaol, ond gall triniaeth helpu i arafu cynydd y cyflwr. Mae triniaethau’n cynnwys: 

  • Rhoi’r gorau i ysmygu - os oes gennych COPD ac yn ysmygu, dyma’r peth pwysicaf y gallwch wneud. 

  • Mewnanadlydd a meddyginiaethau - i helpu anadlu’n haws. 

  • Adsefydlu pwlmonaidd - rhaglen arbenigol o ymarfer ac addysg. 

  • Llawdriniaeth neu drawsblaniad yr ysgyfaint - er mai hyn yn opsiwn i nifer fach iawn o bobl yn unig. 

Deilliannau COPD 

Mae'r deilliant ar gyfer COPD yn amrywio o berson i berson. Nid oes modd gwella na gwrthdroi'r cyflwr, ond i lawer o bobl, gall triniaeth helpu i'w reoli, felly nid yw'n cyfyngu'n ddifrifol ar eu gweithgareddau dyddiol. Ond i rai pobl, gall COPD barhau i waethygu hyd yn oed gyda thriniaeth, gan gael effaith sylweddol yn y pen draw ar ansawdd eu bywydau ac arwain at broblemau sy'n bygwth bywyd. 

Atal COPD 

Mae COPD yn gyflwr y gellir ei atal i raddau helaeth. Gallwch leihau'r bosibilrwydd o'i ddatblygu yn sylweddol os byddwch yn osgoi ysmygu. Os ydych eisoes yn ysmygu, gall rhoi’r gorau iddo helpu atal difrod pellach i'ch ysgyfaint cyn iddo ddechrau achosi symptomau trafferthus. Bydd rhoi'r gorau i ysmygu, hyd yn oed am gyfnod byr, nid yn unig yn gwella eich iechyd cyffredinol ond bydd yn helpu ymateb eich corff i driniaeth. Os oes angen llawdriniaeth arnoch, gall rhoi'r gorau iddo hefyd gyflymu eich adferiad a lleihau eich amser yn yr ysbyty. 

Mae mwy o fideos gyda gwybodaeth am COPD ar gael yn COPD – PocketMedic

Mae yna apiau Anadlol sy'n cynnig cymorth hirdymor i'ch helpu rheoli eich cyflwr anadlol, fel COPD ac Asthma, gan eich helpu i aros yn iach, gyda chyngor, addysg a chefnogaeth o ansawdd rhagorol.

COPD Hub – Healthhub

(Ffynhonnell A-Z Iechyd GIG Lloegr A-Z)

Rhannu:
Cyswllt: