Neidio i'r prif gynnwy

Rhoi'r Gorau i Ysmygu

Mae unigolyn bron bedair gwaith yn fwy tebygol o lwyddo i roi'r gorau i ysmygu os yw'n derbyn cymorth gan wasanaeth GIG o'i gymharu â cheisio rhoi'r gorau iddi ar ei ben ei hun. 

Alex a Stacy yw Cynghorwyr Rhoi'r Gorau i Ysmygu Cymunedol Helpa Fi i Stopio (HMQ) sy'n gweithio ar draws Powys i ddarparu cymorth wedi'i deilwra i ysmygwyr sydd am roi'r gorau i ysmygu. 

Helo, Stacy dwi ac rydw i wedi bod yn cynnig cymorth ar roi'r gorau i ysmygu ym Mhowys ers 2014.  Cefais fy ngeni yn America, yna symudais i'r DU yn 1999 a dechreuais yrfa o dros 20 mlynedd ar newid ymddygiad yn y gymuned a chefnogi pobl i wneud dewisiadau iach o ran ffordd o fyw. Cefais fy addysg ffurfiol mewn Seicoleg, Addysg a Gwaith Cymdeithasol a rhoddodd yr arbenigedd i mi gynnig cymorth wedi'i deilwra'n unigol i bawb sy'n defnyddio gwasanaethau Helpa Fi i Stopio.  Mae croeso i chi gysylltu â mi ar 07866 889 379 neu Stacy.Baker@wales.nhs.uk os hoffech drafod ein gwasanaethau rhoi'r gorau i ysmygu neu geisio cymorth, rydw i yma ac yn hapus i helpu! 

Fy enw i yw Alex, rydw i wedi bod yn gweithio ym maes rhoi’r gorau i ysmygu ers 2013. Mae gen i radd Meistr newydd yn Seicoleg Iechyd Brifysgol Morgannwg, yng nghyd â hyfforddiant yn Sgiliau Cwnsela trwy Goleg Powys. 
Gall defnyddio cyfuniad o'r cymorth ymddygiadol a'r driniaeth am ddim gan Helpa Fi i Stopio eich gwneud dros bedair gwaith yn fwy tebygol o roi'r gorau i ysmygu o'i gymharu â’i gwneud ar eich pen eich hun. Os hoffech drafod y gwasanaeth hwn, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â mi ar 07866 887 938 neu William.Doran@wales.nhs.uk

Alla i ddewis sut i roi'r gorau i smygu? - Help Me Quit (helpafiistopio.cymru)

Rhannu:
Cyswllt: