Neidio i'r prif gynnwy

Adnoddau Cymorth ar gyfer Diabetes Math 1

Offeryn Cymorth Ar-lein ar gyfer Math 1

https://www.bertieonline.org.uk/

 

Monitro Glwcos Fflach ar gyfer Diabetes Math 1

Gall cael gormod o glwcos yn y gwaed (hyperglycaemia) neu dim digon (hypoglycaemia) arwain at gymhlethdodau iechyd, fel niwed i'r galon, llygaid, traed ac arennau. Mae'n bwysig felly bod pobl â diabetes yn gallu profi eu gwaed i wirio faint o glwcos sydd yn eu llif gwaed ar unrhyw adeg, i helpu rheoli'r cyflwr a lleihau cymhlethdodau. Cyflawnwyd hyn fel arfer drwy bigo blaen y bysedd gyda nodwydd i gynhyrchu diferyn o waed, sy'n cael ei ddadansoddi gan ddyfais. Gelwir hyn yn hunan-fonitro glwcos yn y gwaed (SMBG). Efallai y bydd angen gwneud y dull hwn hyd at 11 gwaith y dydd a gall arwain at boen, embaras a darlleniadau glwcos anghywir.

 

Mae Monitro Glwcos Fflach (FGM) yn ddewis arall i SMBG a gynigir i leihau rhai o'r anawsterau gyda SMBG. Yn FGM, mae synhwyrydd yn cael ei fewnosod dan y croen lle mae'n darllen ac yn cofnodi lefelau glwcos yn barhaus. Gellir cyrchu'r rhain drwy basio sganiwr dros y synhwyrydd, a fydd yn dangos eu lefel glwcos yn y gwaed i ddefnyddwyr.

 

Cliciwch ar y ddolen isod am wybodaeth bellach am Fonitro Glwcos Fflach.

https://healthtechnology.wales/reports-guidance/freestyle-libre-flash-glucose-monitoring/

DAFNE

Mae hunanreolaeth yn asgwrn cefn gofal diabetes i bobl â Diabetes ac ardal ein Bwrdd Iechyd, rydyn ni'n cynnal cyrsiau DAFNE. Mae'r rhain yn ceisio helpu oedolion â diabetes Math 1 i fyw bywyd mor normal â phosibl, a hefyd cynnal lefelau glwcos y gwaed o fewn targedau iach, i leihau'r risg o gymhlethdodau diabetes hirdymor.  

Beth yw DAFNE?  

Rhaglen rheoli glwcos yw DAFNE (Addasu Dos ar gyfer Bwyta’n Normal) gyda phwyslais ar gyfri carbohydrad ac addasu dosau inswlin. Mwy o wybodaeth.   

Mae cyrsiau DAFNE fel arfer yn cael eu cynnal wyneb yn wyneb mewn grwpiau bach dros 5 diwrnod, neu 1 diwrnod yr wythnos dros 5 wythnos. Gallwch hefyd gyrchu DAFNE o bell trwy gymysgedd o ddysgu ar-lein a chymorth grŵp dros alwadau fideo. 

Sut ydw i’n cyrchu DAFNE?  

Os oes gennych ddiabetes Math 1 ac yn cael eich trin gyda phigiadau dyddiol o inswlin, gallwch ofyn i unrhyw aelod o'ch tîm diabetes eich cyfeirio at y dietegwyr. 

Logo Dafne - cylch oren gyda gwên a marc danned a’r gair DAFNE

Rhannu:
Cyswllt: