Neidio i'r prif gynnwy

Cymhlethdodau Diabetes

Gall lefelau siwgr gwaed uchel niweidio rhannau o'ch corff yn ddifrifol, gan gynnwys eich traed a'ch llygaid. Cymhlethdodau diabetes yw'r enw ar y rhain, ond gallwch gymryd camau i atal neu ohirio llawer o sgil-effeithiau diabetes.

 

Cliciwch y ddolen isod am wybodaeth am gymhlethdodau diabetes:

 

https://www.diabetes.org.uk/guide-to-diabetes/complications

 

Gall lefelau siwgr uchel yn eich gwaed dros gyfnod hir o amser niweidio eich pibellau gwaed yn ddifrifol. Os nad yw eich pibell gwaed gweithio'n iawn, ni all gwaed deithio i'r rhannau o'ch corff mae angen iddo wneud. Mae hyn yn golygu na fydd eich nerfau'n gweithio'n iawn chwaith ac yn golygu eich bod yn colli teimlad mewn rhannau o'ch corff. Ar ôl i chi ddifrodi'r pibellau gwaed a'r nerfau mewn un rhan o'ch corff, rydych chi'n fwy tebygol o ddatblygu problemau tebyg mewn rhannau eraill o'ch corff. Felly os yw eich traed yn cael eu niweidio, gall problemau difrifol ar y galon ddilyn.

Rydym yn gwybod mai'r uchaf yw eich lefel HbA1c, y mwyaf rydych chi mewn perygl o ddatblygu cymhlethdodau. HbA1c yw haemoglobin glycedig. Gwneir hyn pan fydd glwcos, a elwir yn siwgr, yn glynu at eich celloedd gwaed ac yn cronni yn eich gwaed. Caiff ei fesur gan brawf gwaed sy'n dangos lefelau siwgr eich gwaed ar gyfartaledd dros y tri mis diwethaf. Mae HbA1c uchel yn golygu bod gennych chi ormod o siwgr yn eich gwaed. Mae hyd yn oed HbA1c ychydig yn uchel yn cynyddu'ch risg o ddatblygu cymhlethdodau.

 

Beth yw HbA1c? https://www.diabetes.org.uk/guide-to-diabetes/managing-your-diabetes/hba1c

 

Mae gwasanaeth Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru yn gwirio problemau llygaid sydd o ganlyniad i ddiabetes. Mae sgan o’r llygaid yn chwilio am ddifrod i gefn y llygad (retinopathi diabetig) sy'n gallu arwain at golli golwg yn barhaol. Gall gwneud newidiadau i'ch ffordd rydych yn rheoli eich diabetes, neu gael triniaeth arbenigol, arafu neu wrthdroi newidiadau a achosir gan retinopathi diabetig. Os ydych chi wedi cael diagnosis diabetes, ac yn 12 oed neu'n hŷn, byddwch yn cael gwahoddiad i fynd i apwyntiad sgrinio. Fel arfer, rydyn ni'n eich gwahodd bob blwyddyn, drwy anfon llythyr atoch i'ch cyfeiriad cartref.

https://icc.gig.cymru/gwasanaethau-a-thimau/sgrinio-llygaid-diabetig-cymru/

 

Mae gofal traed yn bwysig iawn os oes gennych Ddiabetes Math 1 neu Fath 2. Dilynwch y ddolen am gyngor allweddol.


Rhaid cofio, nid lefelau siwgr y gwaed yn unig sy'n bwysig. Gall pwysedd gwaed uchel, ysmygu a llawer o fraster yn eich gwaed (colesterol) i gyd niweidio'ch pibellau gwaed ac achosi i chi fod mewn perygl uwch. Cyfeiriwch at y cyngor defnyddiol yn yr adran hon am ragor o fanylion. 

Rhannu:
Cyswllt: