Neidio i'r prif gynnwy

Nyrsio Diabetes Cymunedol Arbenigol

Claf yn profi lefel glwcos ei waed

Nyrsio Diabetes Cymunedol Arbenigol

 

Mae Nyrsys Diabetes Arbenigol yn asgwrn cefn triniaeth a gofal diabetes yn y DU. Eu nod sylfaenol yw helpu pobl rheoli eu diabetes, math 1 a math 2 (Mae’r rhan fwyaf o bobl gyda diabetes math 2 yn cael eu rheoli trwy ofal sylfaenol. Mae nyrsys arbenigol fel arfer yn delio ag unigolion sydd angen pigiad i reoli ei ddiabetes.)

 

Beth mae’r gwasanaeth yn gwneud?

Mae nyrsys diabetes arbenigol yn cynnig cymorth ac addysg i bobl â diabetes a’i ofalwyr/teulu. Maen nhw hefyd yn cynnig cymorth ac addysg i weithwyr iechyd a gofal proffesiynol eraill sydd o bosibl yn gweithio gyda phobl â diabetes.

 

Sut ydw i’n defnyddio’r gwasanaeth?

Mae’n bosib i feddyg teulu neu weithiwr iechyd proffesiynol arall atgyfeirio cleifion neu mae’n bosib iddyn nhw gyfeirio eu hunain.

 

Ble mae'r gwasanaeth hwn yn cael ei ddarparu?

De Powys – 01874 615637

Canolbarth Powys – 01597 828717

Gogledd Powys – 01686 617226

 

Beth i'w wneud y tu allan i oriau?

Mae Nyrsys Diabetes Arbenigol dim ond ar gael yn ystod oriau swyddfa rhwng ddydd Llun i ddydd Gwener. Os oes angen cymorth brys arnoch tu allan i’r oriau hyn, ni all aros tan i’r Nyrsys Diabetes Arbenigol ddychwelyd i’r gwaith, yna cysylltwch â’ch Meddyg Teulu neu wasanaeth meddyg teulu tu allan i oriau.

Rhannu:
Cyswllt: