Mae gan Gymru’r gyfradd uchaf o ddiabetes yn y DU ac mae effaith diabetes math 2 ar iechyd a lles unigolion a’u teuluoedd yn ddifrifol, gyda chost ariannol yn gyfrifol am tua 10% o gyllideb y GIG.
Y newyddion da i’r bobl hynny sydd mewn perygl uwch o ddiabetes, neu’r rheini sydd wedi cael diagnosis “cyn-ddiabetes”, yw y gallai newidiadau allweddol i ddeiet a lefel gweithgaredd corfforol atal dros hanner achosion diabetes math 2.
Lansiwyd y Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan (AWDPP) gan gynnig cymorth pwrpasol i nodi a helpu’r rhai mewn perygl. Bydd deietegydd lleol, mewn partneriaeth â meddygfeydd, yn nodi pobl cymwys ym Mhowys. Bydd y rhan fwyaf o bobl sydd wedi cael prawf gwaed sy'n dangos eu bod mewn mwy o berygl o gael diabetes math 2 (HbA1c rhwng 42-47mmol/mol) yn cael eu gwahodd i fynychu ymgynghoriad 30 munud gyda gweithiwr cymorth gofal iechyd hyfforddedig.
Bydd y gweithiwr cymorth gofal iechyd yn siarad â phobl am y perygl y byddant yn datblygu diabetes math 2 a'r hyn y gallant ei wneud i'w leihau. Gallant hefyd eu cyfeirio at ffynonellau cymorth ychwanegol a bydd apwyntiad dilynol yn digwydd tua 12 mis yn ddiweddarach.