Beth yw Diabetes Math 1?
- Mae Diabetes Math 1 yn achosi i lefelau glwcos (siwgr) y gwaed i fod yn rhy uchel. Mae hyn yn digwydd pan nad yw eich corff yn gallu creu digon o’r hormon inswlin, sy’n rheoli glwcos y gwaed. Mae rhaid i chi gymryd inswlin bob dydd er mwyn rheoli lefel y glwcos yn eich gwaed. Gall rheoli Diabetes Math 1 gymryd amser i ddod yn gyfarwydd ag, ond gallwch barhau i wneud y pethau rydych chi’n mwynhau.
- Mae symptomau Diabetes Math 1 yn cynnwys teimlo’n sychedig iawn, pasio wrin yn fwy aml yn enwedig yn y nos, teimlo’n flinedig iawn, colli pwysau heb drio, y llindag sy’n dod yn ôl yn aml, golwg aneglur, toriad neu grafiad nad ydyn nhw’n gwella ac anadl sy’n arogli fel ffrwyth. Gall symptomau Diabetes Math 1 ddechrau’n sydyn, yn enwedig mewn plant.
Am fwy o wybodaeth ar Ddiabetes Math 1, dilynwch y ddolen isod.
https://111.wales.nhs.uk/encyclopaedia/d/article/diabetes,type1/
Beth yw Diabetes Math 2?
- Mae Diabetes Math 2 yn gyflwr sy’n achosi lefelau siwgr (glwcos) y gwaed i fynd yn rhy uchel.
- Mae symptomau Diabetes Math 2 yn cynnwys syched difrifol, yr angen i basio wrin yn aml a blinder. Gall hefyd gynyddu eich risg o ddatblygu problemau difrifol yn eich llygaid, calon a nerfau.
- Mae’n gyflwr sy’n gallu effeithio ar eich bywyd bob dydd. Efallai y bydd angen i chi newid eich deiet, cymryd meddyginiaeth a mynychu apwyntiadau archwilio’n rheolaidd.
- Achosir gan broblemau gyda chemegyn yn y corff (hormon) o’r enw inswlin. Yn aml, y cysylltir gyda gorbwysedd neu anweithgarwch, neu hanes teuluol o Ddiabetes Math 2.
Dilynwch y ddolen isod am gyngor i bobl sydd newydd gael diagnosis o ddiabetes math 2.
Am fwy o wybodaeth ar Ddiabetes Math 2, dilynwch y ddolen isod.
https://111.wales.nhs.uk/encyclopaedia/d/article/diabetes,type2