Neidio i'r prif gynnwy

Ysmygu

Rhoi gorau i ysmygu yw’r peth gorau y gallwch chi wneud er lles eich iechyd. Ysmygu yw prif achos marwolaethau y gellir osgoi, ac mae un ym mhob dau ysmygwr yn marw o gyflwr a achoswyd gan ysmygu. Mae’n ffaith gyffredin bod ysmygu yn achosi afiechydon megis canser, clefyd y galon a chyflyrau anadlol fel COPD neu asthma, ond pa effaith y caiff ar Ddiabetes neu eich risg o ddatblygu Diabetes?

Am fwy o wybodaeth, ewch i: https://www.mytype1diabetes.nhs.uk/resources/internal/smoking-and-diabetes/

Mae’r ymgyrch Helpa Fi i Stopio wedi helpu miloedd o bobl ar draws Cymru i roi’r gorau i ysmygu. Rydych chi’n 4 gwaith mwy tebygol o roi’r gorau i ysmygu gyda chymorth gan y GIG. Dilynwch y ddolen isod i wrando ar rai straeon llwyddiannus.

https://www.helpafiistopio.cymru/?page_id=4519

Am fwy o wybodaeth ar roi’r gorau i ysmygu, ewch i: www.helpafiistopio.cymru

Rhannu:
Cyswllt: