Neidio i'r prif gynnwy

Bydwraig Iechyd Meddwl Amenedigol (IMA) a'r Gwasanaeth Myfyrdodau a Thrawma Genedigaeth

Gall unrhyw un brofi problemau iechyd meddwl amenedigol yn ystod beichiogrwydd neu ar ôl geni'r babi a gall olygu bod angen mewnbwn arbenigol arnoch.

Mae’r Fydwraig Iechyd Meddwl Amenedigol yn gweithio o fewn y tîm iechyd meddwl Amenedigol i gefnogi menywod a phobl beichiog gyda materion iechyd meddwl cymedrol i ddifrifol.

Fodd bynnag, gall menywod a phobl beichiog eraill hefyd brofi anghenion iechyd meddwl ysgafn i gymedrol.

 

Yn ystod beichiogrwydd:

Gall beichiogrwydd arwain at newidiadau mawr yn eich bywyd, yn enwedig os mai hwn yw eich beichiogrwydd cyntaf. Mae rhai pobl yn ymdopi'n dda â'r newidiadau hyn, ac efallai y bydd eraill yn ei chael hi'n anoddach. Hyd yn oed os ydych chi'n teimlo'n gyffrous am eich babi, mae'n gyffredin i rai menywod a phobl feichiog deimlo'n agored i niwed pan fyddant yn feichiog a gall hyn ddigwydd ar unrhyw adeg yn ystod eich beichiogrwydd. Siaradwch â'ch bydwraig os ydych chi'n teimlo'n isel neu'n orbryderus.

Os ydych wedi dioddef o orbryder, iselder, neu unrhyw salwch meddwl yn y gorffennol, gall hyn gynyddu'r tebygolrwydd o ailddigwydd yn ystod beichiogrwydd, neu ar ôl cael eich babi. Mae’n bwysig eich bod yn trafod hwn gyda’ch bydwraig sy’n gallu cyrchu cymorth i chi drwy’r Timau Iechyd Meddwl Cymunedol ac Iechyd Meddwl Amenedigol.

I gysylltu â’ch bydwraig leol, ffoniwch 01874 622443

 

Ar ôl geni eich plentyn:

Ar ôl yr enedigaeth, mae rhai menywod a rhieni yn teimlo’n isel ac yn ddagreuol, sydd weithiau’n cael ei adnabod fel dioddef o’r felan neu ‘Baby Blues’ yn Saesneg. Mae hyn yn cael ei achosi gan newid hormonaidd yn y corff ac fel arfer mae'n datrys o fewn ychydig ddyddiau. Os ydych chi'n poeni bod y teimladau hyn yn gwaethygu neu ddim yn mynd i ffwrdd, siaradwch â'ch bydwraig neu'ch ymwelydd iechyd i gael cymorth. Gall tadau/partneriaid a rhieni eraill hefyd brofi gorbryder ac iselder ar ôl genedigaeth babi.

Mae Cymorth a Chefnogaeth ar gael, felly siaradwch am sut rydych chi'n teimlo gyda'ch Bydwraig, Ymwelydd Iechyd neu Feddyg Teulu.

Byddwch yn cael amser i siarad am unrhyw deimladau a phryderon a chael help os oes angen.

Dyma rai o arwyddion a symptomau iselder a gorbryder yn ystod beichiogrwydd ac ar ôl genedigaeth eich babi.

 

      Crio                          Diffyg egni                 Gorbryder

 

          Anawsterau cysgu            Tymor blin               Dim chwant bwyd

 

Os ydych chi’n profi unrhyw un o’r symptomau canlynol, cysylltwch â’ch bydwraig leol ar

01874 622443

Rhannu:
Cyswllt: