Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad arolygu cadarnhaol i gartref preswyl Tref-y-clawdd

Mae'r tîm yng nghartref gofal preswyl Golwg-y-Bwthyn Tref-y-clawdd wedi croesawu ei adroddiad arolygu cadarnhaol iawn diweddaraf gan Arolygiaeth Gofal Cymru.

Yn ôl Arolygiaeth Gofal Cymru mae trigolion y cartref gofal yn hapus gyda'r gofal maen nhw'n ei dderbyn a bod staff yn gweithio'n galed i sicrhau bod pobl yn teimlo'n gartrefol a bod eu 'canlyniadau personol' yn cael eu bodloni.

Mae Golwg-y-Bwthyn yn unigryw yng Nghymru gan mai dyma'r unig gartref gofal sy'n cael ei reoli gan fwrdd iechyd; yn yr achos hwn Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, ac fe gafodd ei arolygu ym mis Chwefror. Mae’r cartref wedi’i leoli ar yr un safle ag Ysbyty Cymunedol Tref-y-clawdd.

Nid oedd yr adroddiad arolygu yn cynnwys unrhyw hysbysiad gwella na hysbysiadau o gamau gweithredu i’w blaenoriaethu.

Chris Creemer yw rheolwr cofrestredig y cartref. Nododd: "Rwy'n falch iawn bod Arolygiaeth Gofal Cymru wedi cydnabod y gwaith caled aruthrol y mae fy nhîm yn ei wneud i ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl i'n trigolion.

"Rydyn ni'n gweithio'n galed i ddarparu gwasanaeth da i'r bobl sy'n dewis gwneud Golwg-y-Bwthyn eu cartref," ychwanegodd.

Mae 15 lle ar gael ar y safle. Mae deg lle yn benodol ar gyfer trigolion arhosiad hir ac mae pum lle arall wedi cael eu cyflwyno yn Ward Panpwnton yr ysbyty - dros dro - i ddarparu gofal ailalluogi fel rhan o gydweithrediad canolbarth Powys gyda Chyngor Sir Powys.

Mae'r dull ailalluogi yn caniatáu i fwy o bobl dderbyn gofal yn nes at adref, gan leihau hyd arhosiad mewn ysbyty cyffredinol dosbarth neu mewn ysbytai cymunedol ymhellach i ffwrdd o Dref-y-clawdd; yn enwedig wrth aros am becyn gofal i'w galluogi i ddychwelyd adref. Mae Dwyrain Sir Faesyfed yn wynebu heriau penodol wrth recriwtio a chadw gweithlu gofal cartref.

Trosglwyddwyd y cartref gofal yn wreiddiol at Ymddiriedolaeth GIG Powys ym 1998 mewn partneriaeth â'r cyngor pan gaewyd cartref gofal y cyngor o'r enw 'The Cottage' ac ychwanegwyd adain 10 gwely pwrpasol i Ysbyty Tref-y-clawdd.

Cafodd y cartref gofal ei arolygu ym mis Chwefror 2024 heb unrhyw hysbysiadau gwella na hysbysiadau gweithredu i’w blaenoriaethu, ac mewn crynodeb canfu AGC:

“Mae'r bobl yn fodlon ar y gofal a'r cymorth y maent yn eu cael yng nghartref Golwg-y-Bwthyn. Mae staff gofal yn gyfeillgar, yn ofalgar ac yn garedig. Maent yn gweithio'n galed iawn i sicrhau bod y bobl yn teimlo'n gartrefol a bod eu canlyniadau personol yn cael eu bodloni. Mae cyfleoedd i'r bobl wneud y pethau y maent yn eu mwynhau ac sydd o ddiddordeb iddynt.

“Mae'r rheolwr yn goruchwylio'r gwasanaeth yn dda iawn. Mae'r staff gofal yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi'n dda ac mae'r gwaith tîm yn amlwg. Maent yn cael cyfleoedd hyfforddi, fel bod ganddynt y wybodaeth a'r sgiliau i ddarparu'r gofal cywir i'r bobl. Mae'r wybodaeth yn y cynlluniau personol yn rhoi gwybod i'r staff gofal sut mae'r bobl am gael eu cefnogi, ac mae'r bobl yn cael eu cynnwys yn y gwaith o adolygu'r rhain er mwyn sicrhau bod eu
canlyniadau personol yn cael eu bodloni.

“Mae'r Unigolyn Cyfrifol yn ymweld â'r gwasanaeth fel rhan o'r broses sicrhau ansawdd. Caiff adroddiadau eu llunio sy'n dangos yr hyn sy'n gweithio'n dda a'r hyn sydd angen ei wella. Mae'r tîm rheoli yn ymrwymedig i wneud yn siŵr bod y bobl yn teimlo'n hapus yn byw yng nghartref Golwg-y-Bwthyn a'u bod yn cael y cymorth cywir i gyflawni eu canlyniadau personol.”

Mae’r adroddiad llawn ar gael ar wefan AGC yn https://www.arolygiaethgofal.cymru/cottage-view

David Farnsworth yw Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau Dros dro’r bwrdd iechyd. Nododd: "Mae hyn yn dyst gwych i waith tîm Golwg-y-Bwthyn - yn enwedig o ystyried y gwaith i ehangu'r cyfleuster yn ddiweddar er mwyn darparu gwasanaeth ailalluogi newydd - ac i'r gefnogaeth a'r arweinyddiaeth ehangach ar draws y bwrdd iechyd."

Ychwanegodd Mr Farnsworth bod gwaith yn parhau er mwyn cynnal ac ehangu'r ystod o wasanaethau sydd ar gael yn enwedig mewn lleoliad cleifion allanol.

Mae mwy o wybodaeth am ddatblygiadau diweddar a datblygiadau’r dyfodol ar gael yng nghylchlythyr Ffocws Cymunedol Tref-y-clawdd a Dwyrain Sir Faesyfed yn https://biap.gig.cymru/newyddion/newyddion-y-bwrdd-iechyd/ffocws-cymunedol-tref-y-clawdd-a-dwyrain-maesyfed-rhifyn-6/

Llun 1: Yn y llun mae Grace Lewis, sy'n weithiwr gofal Golwg-y-Bwthyn yn helpu preswylwyr mewn gweithdy crefft yn Golwg-y-Bwthyn.

 

Llun 2: Chris Creemer yw Rheolwr Cofrestredig Golwg-y-Bwthyn.

Rhannu:
Cyswllt: