Gall ansicrwydd yn sgil eich iechyd, eich gofal a'ch triniaeth fod yn straen. Ni waeth eich sefyllfa, gall fod yn defnyddio creu trefn diwrnod sy’n cynnwys gweithgareddau sy’n:
- rhoi teimlad eich bod wedi cyflawni camp.
- helpu teimlo’n agosach gydag eraill.
- defnyddiol ar gyfer eich lles chi.
Awgrymiadau defnyddiol:
Dyma rai enghreifftiau o weithgareddau y gall wella eich lles:
- Gwnewch weithgareddau rydych yn mwynhau - darllenwch lyfr neu gylchgrawn; gwyliwch y teledu neu ffilm; byddwch yn greadigol trwy beintio, gwau neu gymryd lluniau.
- Cymerwch amser i ofalu amdanoch chi eich hun - cymerwch fath; peintiwch eich ewinedd; gwrandewch ar gerddoriaeth; paratowch bryd o fwyd ffres.
- Treuliwch amser yn yr awyr agored neu eisteddwch wrth ffenest ar agor – plannwch blanhigion: pigwch flodau; gwrandewch ar fyd natur.
- Byddwch yn heini - ewch am dro ysgafn neu gwnewch ddarnau ysgafn o ymarfer corff.
- Cysylltwch gydag eraill - siaradwch gyda theulu, ffrindiau a chymdogion; ysgrifennwch lythyrau neu gardiau post.
- Edrychwch ar ôl eich amgylchedd - glanhewch neu tacluswch ardal yn eich cartref; golchwch ddillad; trwsiwch rywbeth.
- Rhowch gynnig ar rai ymarferion ymlacio neu ymwybyddiaeth ofalgar.
- Cadwch rywfaint o strwythur i'ch diwrnod - ewch i'r gwely a chodwch ar yr un pryd bob dydd.
- Ar ddiwedd pob diwrnod byddwch yn garedig gyda’ch hun a myfyriwch ar dri pheth cadarnhaol, ni waeth pa mor fach ydynt.
Defnyddiwch adnoddau lleol y GIG:
Adnoddau gwirfoddol lleol defnyddiol:
Mind
Yn cefnogi pobl yn y gymuned sy’n cael eu heffeithio gan salwch meddwl a gofid. Mae croeso i bawb. Rydym yn cynnig ystod o weithgareddau iach, cyrsiau a gweithdai wedi’u cynllunio i gefnogi a grymuso pobl sy’n profi trallod meddwl i symud tuag at adferiad.
Defnyddiwch adnoddau ar-lein: