Mae'r pecyn newydd hwn yn cynnwys manteison fel £5000 grant byw mewn ardaloedd gwledig
Mae Atgyfnerthwyr yr Hydref COVID 19 ar gael ar sail galw heibio i gleifion Powys 50+ oed ac i weithwyr iechyd a gofal rheng flaen yn ein canolfannau brechu COVID 19 yn y Drenewydd, Llandrindod a Bronllys.
Mae Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys GIG Cymru wedi cyhoeddi’r diweddariad canlynol ar ddatblygiad Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys y GIG (EMRTS Cymru) ac Elusen Ambiwlans Awyr Cymru.
Gwybodaeth am Strep A
Mae Cyfeiriadur Mannau Cynnes Cyngor Sir Powys yn cynnwys llyfrgelloedd, canolfannau cymunedol, eglwysi a mannau eraill sy'n agor eu drysau i unrhyw un sydd eu hangen.
Mae Atgyfnerthwyr yr Hydref COVID 19 ar gael ar sail galw heibio i gleifion Powys 50+ oed ac i weithwyr iechyd a gofal rheng flaen yn ein canolfannau brechu COVID 19 yn y Drenewydd, Llandrindod a Bronllys.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn atgoffa rhieni bod achosion o haint streptococol grŵp A ymledol (iGAS) yn parhau'n brin yng Nghymru, a bod gan blant risg isel iawn o ddal y clefyd.
Daw'r nodyn atgoffa ar ôl i Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA) ac Iechyd Cyhoeddus Cymru gadarnhau nifer o farwolaethau o iGAS, sef cymhlethdod prin o haint streptococol grŵp A.
Yn y rhan fwyaf o achosion, mae haint streptococol A yn achosi'r dwymyn goch, salwch ysgafn fel arfer.
Bu cynnydd yn y dwymyn goch eleni. Yn y DU, cafwyd 1,512 o hysbysiadau o'r dwymyn goch rhwng mis Ionawr a mis Hydref 2022, o gymharu â 948 yn ystod yr un cyfnod yn 2019.
Meddai Dr Graham Brown, Ymgynghorydd Rheoli Clefydau Trosglwyddadwy ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Er ein bod yn deall bod rhieni yn debygol o boeni am adroddiadau y maent yn eu gweld yn gysylltiedig ag iGAS, mae'r cyflwr yn parhau i fod yn brin.
“Mae symptomau annwyd a thebyg i'r ffliw yn gyffredin iawn ar yr adeg hon o'r flwyddyn, yn enwedig mewn plant. Bydd y rhan fwyaf yn cael feirws tymhorol cyffredin y gellir ei drin drwy sicrhau bod y plentyn yn yfed digon, a'i drin â pharasetamol.
“Efallai y bydd rhai plant sydd â symptomau annwyd a thebyg i'r ffliw- dolur gwddf, cur pen, twymyn - yn profi rhai o symptomau cynnar y dwymyn goch, sydd hefyd yn mynd ar led ar yr adeg hon o'r flwyddyn. Bydd y plant hyn yn mynd ymlaen i ddatblygu symptomau penodol i'r dwymyn goch, gan gynnwys brech binc-goch fân sy'n teimlo fel papur tywod wrth ei chyffwrdd, a dylai rhieni gysylltu â'u meddyg teulu.
“Er bod y dwymyn goch yn peri mwy o bryder, mae'n dal i fod yn salwch eithaf ysgafn a bydd y rhan fwyaf o blant yn gwella ohono heb gymhlethdodau, yn enwedig os yw'r cyflwr yn cael ei drin yn iawn gyda gwrthfiotigau.
“Mewn achosion prin iawn, gall haint streptococol grŵp A achosi iGAS, sef cymhlethdod prin sy'n effeithio ar lai nag 20 o blant yng Nghymru bob blwyddyn. Er bod iGAS yn gyflwr sy'n peri pryder, bydd y mwyafrif o'r plant hyn yn gwella gyda thriniaeth briodol.
“Y peth gorau y gall rhieni ei wneud yw darparu'r gofal y byddent fel arfer yn ei ddarparu i blentyn â symptomau annwyd a thebyg i'r ffliw, ond i ymgyfarwyddo â symptomau'r dwymyn goch ac iGAS fel rhagofal.
“Mae hefyd yn bwysig bod plant o ddwy oed i fyny yn cael eu hamddiffyn rhag ffliw tymhorol, a chael y brechlyn.”
Mae symptomau'r dwymyn goch yn cynnwys dolur gwddf, pen tost/cur pen, twymyn, cyfog a chwydu. Dilynir hyn gan frech fân lliw coch, sydd fel arfer yn ymddangos gyntaf ar y frest a'r stumog, gan ledaenu'n gyflym i rannau eraill o'r corff. Efallai na fydd plant hŷn yn cael y frech.
Ar groen pigmentog tywyll, gall y frech lliw coch fod yn fwy anodd i'w gweld, ond dylai deimlo fel 'papur tywod'. Gall yr wyneb gochi ond yn welw o amgylch y geg.
Cynghorir y dylai rhieni sy'n amau bod gan eu plentyn symptomau'r dwymyn goch wneud y canlynol:
Mae rhieni yn cael eu cynghori i gysylltu â'u meddyg teulu neu gael cyngor meddygol ar unwaith os ydynt yn credu bod gan eu plentyn unrhyw un o arwyddion a symptomau clefyd iGAS.
Mae Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys GIG Cymru wedi cyhoeddi papurau ar gyfer eu cyfarfod yn gyhoeddus ar 6 Rhagfyr 2022.
Mae Atgyfnerthwyr yr Hydref COVID 19 ar gael ar sail galw heibio i gleifion Powys 50+ oed ac i weithwyr iechyd a gofal rheng flaen yn ein canolfannau brechu COVID 19 yn y Drenewydd, Llandrindod a Bronllys.
Diweddariad ar wasanaethau'r GIG yn Nhrefyclo a Dwyrain Sir Faesyfed
Gofynnir i gleifion gysylltu â’r llinell gymorth ddeintyddol ar 01686 252 808
Mae Cynogwyr Hydref COVID 19 ar gael i rai cleifion 50+ oed o Bowys ac ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal rheng flaen yn ein canolfannau brechu COVID 19 yn y Drenewydd, Llandrindod a Bronllys.
Bydd Bwrdd BIAP yn cyfarfod yn gyhoeddus ar 30 Tachwedd 2022
Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi cyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol, sy’n tynnu sylw at sut mae’n cyflymu’r gwaith o ddatblygu a mabwysiadu atebion arloesol i wella canlyniadau iechyd a lles economaidd yng Nghymru.
Mae brechlyn atgyfnerthu'r hydref COVID 19 ar gael i rai cleifion 50+ oed o Bowys ac ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal rheng flaen yn ein canolfannau brechu COVID 19 yn y Drenewydd, Llandrindod a Bronllys.
Ymunwch â ni rhwng 10am ac 1pm i ddarganfod mwy am rolau ar Ward Crug yn Ysbyty Aberhonddu.
Mae gwasanaeth 111 CYMRU yn annog y cyhoedd i fanteisio’n llawn ar ei gyngor a gwybodaeth iechyd rhad ac am ddim yn y cyfnod cyn y gaeaf.
Dylai gwefan GIG 111 Cymru fod yn fan cyswllt cyntaf i’r cyhoedd os ydynt yn sâl neu wedi’u hanafu ac yn ansicr beth i’w wneud.
Bydd mwy na 75 o wirwyr symptomau yn awgrymu beth sydd o'i le a'r camau nesaf i'w cymryd, o boen yn yr abdomen i bryder, anawsterau anadlu i losgiadau, dolur rhydd i bendro, llewygu a thwymyn.
Os yw eich pryder iechyd yn fater brys, bydd y rhai sydd wedi'u hyfforddi'n drylwyr i drin galwadau ar y rhif rhad ac am ddim 111 hefyd yn rhoi cyngor i chi dros y ffôn, gan drefnu galwad yn ôl gan glinigwr os oes angen.
Bydd defnyddio GIG 111 Cymru yn gyntaf yn lleihau’r pwysau ar y gwasanaeth 999 a’r Adran Achosion Brys yn ystod gaeaf heriol arall i’r GIG yng Nghymru.
Dywedodd Eluned Morgan AS, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: “Mae llawer o wahanol wasanaethau’r GIG ac weithiau gall fod yn anodd gwybod ble orau i droi am gyngor a chymorth gofal iechyd pan fyddwch yn sâl.
“Rydyn ni’n lansio ymgyrch genedlaethol gyntaf GIG 111 Cymru y gaeaf hwn fel bod pobl yn gwybod bod yna wasanaeth sy’n gallu darparu cymorth a gwybodaeth bwrpasol pryd bynnag a lle bynnag mae pobl ei angen.”
Dywedodd Peter Brown, Pennaeth Gwasanaeth GIG 111 Cymru, a ddarperir gan Wasanaethau Ambiwlans Cymru: “Gyda thechnoleg ar flaenau ein bysedd, mae pobl mewn mwy o berygl o ddisgyn trwy rwydi’r rhyngrwyd wrth chwilio am symptomau meddygol, sy’n yn eu gadael yn agored i wybodaeth ffug a chamarweiniol.
“Nid yn unig mae GIG 111 Cymru ar-lein yn ffordd gyflym a hawdd o gael cyngor iechyd, ond mae’n gyngor iechyd y gallwch ymddiried ynddo, wedi’i ysgrifennu a’i gymeradwyo gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol.
“Mae’r adran Gwasanaethau Lleol ar y wefan hefyd yn eich helpu i ddod o hyd i’ch deintydd, fferyllfa, uned mân anafiadau a chlinig iechyd rhywiol agosaf.”
Ychwanegodd Richard Bowen, Cyfarwyddwr Rhaglen Genedlaethol Chwe Nod ar gyfer Gofal Brys ac Argyfwng: “Mae’r gaeaf yn gyfnod heriol i’r GIG, a gwyddom y gall hefyd fod yn anodd i bobl agored i niwed, yn enwedig yn ystod yr argyfwng costau byw.
“Gyda thymor arbennig o wael wedi’i ragweld ar gyfer firysau anadlol, gan gynnwys lefelau uwch o ffliw, achosion Covid-19 wedi’u cadarnhau a derbyniadau i’r ysbyty, mae’n bwysicach nag erioed bod pobl yn defnyddio GIG 111 Cymru i dderbyn cyngor gofal iechyd dibynadwy mewn modd amserol a helpu i leddfu’r pwysau ar ein GIG prysur.”
Mae heddiw’n nodi lansiad ymgyrch Cyngor y Gallwch Ymddiried Ynddo GIG 111 Cymru. Ewch i 111.GIG.Cymru i gael rhagor o wybodaeth