Neidio i'r prif gynnwy

Newyddion y Bwrdd Iechyd

GIG 111 Cymru: am gyngor gofal iechyd y gallwch ymddiried ynddo

Mae gwasanaeth 111 CYMRU yn annog y cyhoedd i fanteisio’n llawn ar ei gyngor a gwybodaeth iechyd rhad ac am ddim yn y cyfnod cyn y gaeaf.

Dylai gwefan GIG 111 Cymru fod yn fan cyswllt cyntaf i’r cyhoedd os ydynt yn sâl neu wedi’u hanafu ac yn ansicr beth i’w wneud.

 

Bydd mwy na 75 o wirwyr symptomau yn awgrymu beth sydd o'i le a'r camau nesaf i'w cymryd, o boen yn yr abdomen i bryder, anawsterau anadlu i losgiadau, dolur rhydd i bendro, llewygu a thwymyn.

 

Os yw eich pryder iechyd yn fater brys, bydd y rhai sydd wedi'u hyfforddi'n drylwyr i drin galwadau ar y rhif rhad ac am ddim 111 hefyd yn rhoi cyngor i chi dros y ffôn, gan drefnu galwad yn ôl gan glinigwr os oes angen.

 

Bydd defnyddio GIG 111 Cymru yn gyntaf yn lleihau’r pwysau ar y gwasanaeth 999 a’r Adran Achosion Brys yn ystod gaeaf heriol arall i’r GIG yng Nghymru.

 

Dywedodd Eluned Morgan AS, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: “Mae llawer o wahanol wasanaethau’r GIG ac weithiau gall fod yn anodd gwybod ble orau i droi am gyngor a chymorth gofal iechyd pan fyddwch yn sâl.

 

“Rydyn ni’n lansio ymgyrch genedlaethol gyntaf GIG 111 Cymru y gaeaf hwn fel bod pobl yn gwybod bod yna wasanaeth sy’n gallu darparu cymorth a gwybodaeth bwrpasol pryd bynnag a lle bynnag mae pobl ei angen.”

 

Dywedodd Peter Brown, Pennaeth Gwasanaeth GIG 111 Cymru, a ddarperir gan Wasanaethau Ambiwlans Cymru: “Gyda thechnoleg ar flaenau ein bysedd, mae pobl mewn mwy o berygl o ddisgyn trwy rwydi’r rhyngrwyd wrth chwilio am symptomau meddygol, sy’n yn eu gadael yn agored i wybodaeth ffug a chamarweiniol.

“Nid yn unig mae GIG 111 Cymru ar-lein yn ffordd gyflym a hawdd o gael cyngor iechyd, ond mae’n gyngor iechyd y gallwch ymddiried ynddo, wedi’i ysgrifennu a’i gymeradwyo gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol.

“Mae’r adran Gwasanaethau Lleol ar y wefan hefyd yn eich helpu i ddod o hyd i’ch deintydd, fferyllfa, uned mân anafiadau a chlinig iechyd rhywiol agosaf.”

Ychwanegodd Richard Bowen, Cyfarwyddwr Rhaglen Genedlaethol Chwe Nod ar gyfer Gofal Brys ac Argyfwng: “Mae’r gaeaf yn gyfnod heriol i’r GIG, a gwyddom y gall hefyd fod yn anodd i bobl agored i niwed, yn enwedig yn ystod yr argyfwng costau byw.

 

“Gyda thymor arbennig o wael wedi’i ragweld ar gyfer firysau anadlol, gan gynnwys lefelau uwch o ffliw, achosion Covid-19 wedi’u cadarnhau a derbyniadau i’r ysbyty, mae’n bwysicach nag erioed bod pobl yn defnyddio GIG 111 Cymru i dderbyn cyngor gofal iechyd dibynadwy mewn modd amserol a helpu i leddfu’r pwysau ar ein GIG prysur.”

Mae heddiw’n nodi lansiad ymgyrch Cyngor y Gallwch Ymddiried Ynddo GIG 111 Cymru. Ewch i 111.GIG.Cymru i gael rhagor o wybodaeth

Diweddariad ar ddatblygiad Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS Cymru) ac Elusen Ambiwlans Awyr Cymru (10 Tachwedd 2022)
Cadw lle yn y Gynhadledd Powys i ofalwyr di-dâl

Gallwch nawr gadw lle ar Gynhadledd Powys i ofalwyr di-dâl 2022, un ai yn bersonol neu ar-lein.

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn ennill clod mawr am hunanreolaeth cleifion yng Ngwobrau Nursing Times 2022

Mae tîm nyrsio ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi cael eu cydnabod yng Ngwobrau Nursing Times 2022.

Diweddariad ar ddatblygiad Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS Cymru) ac Elusen Ambiwlans Awyr Cymru - 3 Tachwedd 2022

Bydd y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys (PGAB / EASC) yn derbyn y cynnig i’w ystyried a’i drafod yn y cyfarfod ar 8 Tachwedd 2022.

Sesiwn Holi ac Ateb gyda Carol Shillabeer ar 3 Tachwedd 2022

Mae ein Sesiwn Holi ac Ateb ar 3 Tachwedd 2022 bellach ar gael i'w wylio ar-lein.

Maes Parcio newydd Ysbyty Aberhonddu i agor yn ystod yr wythnosau nesaf

Set agor i ddigwydd pan fydd y goleuadau wedi'u cwblhau.

Diweddariad ar Ysbyty Cymunedol Tref-y-clawdd - Mis Hydref 2022

Nid yw wedi bod yn bosibl ailagor y ward eto oherwydd diffyg staff nyrsio cofrestredig.

Mae cylchlythyr Hydref 2022 ar ailddatblygu Ysbyty Bro Ddyfi bellach ar gael

Darllenwch y cylchlythyr diweddaraf ar ein gwefan.

Gall pob un ohonom chwarae ein rhan i ddiogelu Cymru

Y gaeaf hwn, gall pob un ohonom chwarae ein rhan i helpu i ddiogelu’r rheini sy’n wynebu’r perygl mwyaf.

Clinigau Galw Heibio Brechlyn Atgyfnerthu'r Hydref COVID - 19 - 31 Hydref i 13 Tachwedd

Mae Cynogwyr Hydref COVID 19 ar gael i rai cleifion 65+ oed o Bowys ac i weithwyr iechyd a gofal rheng flaen yn ein canolfannau brechu COVID 19 yn y Drenewydd, Llandrindod a Bronllys.

Eich Syniadau Mawr ar gyfer Powys

Mae angen eich cymorth arnom i benderfynu ar y problemau mawr sydd angen i sefydliadau partner ym Mhowys ganolbwyntio ar dros y pum mlynedd nesaf. Rhannwch eich syniadau mawr i Bowys. Dweud eich dweud erbyn y 13 Tachwedd 2022: www.dweudeichdweudpowys.cymru/syniadau-mawr

Diweddariad ar ddatblygiad Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys y GIG (EMRTS Cymru) ac Elusen Ambiwlans Awyr Cymru
Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn torri'r 30,000 o frechiadau COVID-19 a roddwyd yn ei ymgyrch brechlynnau gaeaf
Eluned Morgan yn cwrdd â staff mewn Canolfan Brechu Torfol
Eluned Morgan yn cwrdd â staff mewn Canolfan Brechu Torfol

Mae ymgyrch brechiadau anadlol y gaeaf yn annog pawb i 'Ailwefru’ch Amddiffyniad' rhag salwch difrifol o ganlyniad i COVID-19 a'r Ffliw.  

Cyngor yn lansio hyb gwybodaeth ar gostau byw

Cyhoeddodd y cyngor sir ei fod wedi lansio hyb gwybodaeth sydd â chyngor a chefnogaeth ar ddelio â chostau byw.

Ceisio eich barn ar newidiadau i Wasanaethau Strôc yn Swydd Henffordd a Swydd Gaerwrangon

Gwybodaeth am newidiadau i wasanaethau strôc yn Swydd Henffordd a Swydd Gaerwrangon.

Clinigau Galw Heibio Atgyfnerthu'r Hydref COVID-19 - wythnos yn dechrau 24 Hydref
Brechlyn covid
Brechlyn covid

Mae Brechlyn Atgyfnerthu'r Hydref COVID-19 ar gael i rai cleifion 65+ oed o Bowys ac i weithwyr iechyd a gofal rheng flaen yn ein canolfannau brechu COVID-19 yn y Drenewydd, Llandrindod a Bronllys.

Cymorth iechyd meddwl ar-lein i blant a phobl ifanc yn lansio yng Nghymru
Cymorth Iechyd Meddwl Ar-lein i Blant a Phobl Ifanc
Cymorth Iechyd Meddwl Ar-lein i Blant a Phobl Ifanc
Digwyddiad Holi ac Ateb Ar-lein gyda Carol Shillabeer ar 3 Tachwedd 2022

Fe'ch gwahoddir i ddigwyddiad Holi ac Ateb ar-lein rhwng 5.15pm a 6pm ddydd Iau 3 Tachwedd.

Sesiynau creadigol ar gael i bobl ym Mhowys sydd mewn profedigaeth, wedi'u heffeithio gan hunanladdiad neu'n dod i gysylltiad â hunanladdiad
Siâp cwmwl glas yn y cefndir gyda thestun gwyn: allan o
Siâp cwmwl glas yn y cefndir gyda thestun gwyn: allan o

Mae out of the BLUE yn cynnig sesiynau creadigol positif dan arweiniad pobl broffesiynol i bobl ym Mhowys, gyda’r ffocws ar gyflwyno profiadau tyner i gymryd rhan yn y celfyddydau creadigol, garddio ymarferol a gwneud crefftau traddodiadol.