Neidio i'r prif gynnwy

Ceisio eich barn ar gais gan Bractis Grŵp Llanfyllin i gau Canolfan Feddygol Llanrhaeadr

Dweud eich dweud - 20 Gorffennaf i 30 Medi 2026

Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi cael cais gan Bractis Grŵp Llanfyllin i gau eu cangen o'r feddygfa yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant.

Rheswm y practis dros gyflwyno'r cais yw eu bod yn ystyried bod eu model practis gwledig aml-safle yn anghynaliadwy yn ariannol o dan y model cyllido cenedlaethol presennol ar gyfer Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol yng Nghymru. 

Mae'r cais yn cael ei ystyried yn unol â Phroses Adolygu Practisau Cangen y Bwrdd Iechyd. Mae'r broses hon yn sicrhau bod ceisiadau i gau canghennau yn cael eu hystyried yn ofalus ac yn drylwyr cyn gwneud unrhyw benderfyniadau ynghylch y ffordd ymlaen.

Mae Adolygiad o Gangen y Practis yn cynnwys: 

  • Adolygu'r cais gan y practis
  • Rhannu gwybodaeth â chi fel cleifion a rhanddeiliaid ehangach i geisio eich barn.
  • Ymgysylltu â Llais, y corff statudol sy'n cynrychioli buddiannau cleifion a'r cyhoedd
  • Ystyried y adborth a gafwyd yn ddiwyd a'i ystyried wrth benderfynu ar y cais mewn cyfarfod cyhoeddus yn y dyfodol o Fwrdd Iechyd Addysgu Powys.

Bydd copi o'r papurau ar gael cyn y cyfarfod ar ein gwefan yn https://biap.gig.cymru/amdanom-ni/y-bwrdd/cyfarfodydd-y-bwrdd/. Ar hyn o bryd, mae cyfarfodydd ein Bwrdd yn cael eu cynnal ar-lein drwy Microsoft Teams, a bydd y dudalen hon hefyd yn cynnwys cyfarwyddiadau ar sut i ymuno â'r cyfarfod.

Mae'r cyfnod ymgysylltu hwn yn digwydd o 20 Gorffennaf 2026 

hyd at 30 Medi 2026. 

Mae eich profiad yn bwysig i'n helpu ni wneud penderfyniad gwybodus. Byddem yn ddiolchgar pe gallech gymryd yr amser i gyfrannu eich barn a'ch gwybodaeth leol. Hoffem ofyn i chi, os gwelwch yn dda: