Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn falch iawn o gyhoeddi contract newydd ar gyfer darparu gwasanaethau deintyddol y GIG yn Aberhonddu ar ôl cymryd drosodd yr hen feddygfa MyDentist yn y dref.
Mae'r perchennog newydd yn y broses o recriwtio tîm newydd gyda'r bwriad o gynnig darpariaeth gwasanaeth y GIG unwaith y bydd ganddynt dîm llawn.
Yn y cyfamser bydd y darparwr yn cynnig gofal deintyddol brys a thriniaeth ddeintyddol wedi'i blaenoriaethu. Byddwch yn amyneddgar yn ystod y cyfnod interim hwn.
Derbyniwch ein hymddiheuriadau nad ydym eto mewn sefyllfa i gynnig Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol yn y practis hwn.
Darganfyddwch sut y gallwch chi helpu ac aros yn ddiogel yn ystod y cyfnod prysur hwn.